|
Teitl y ddeiseb: Sicrhau diagnosis a thriniaeth i bobl sy'n dioddef o sgîl-effeithiau negyddol brechlyn COVID-19 Geiriad y ddeiseb: Rwy'n dioddef o Adwaith Niweidiol Brechlyn Covid-19. O ganlyniad, mae fy mywyd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth. Rwy'n cael trafferth gwneud tasgau sylfaenol, mewn poen cyson ac wedi dod yn ddibynnol ar fy nheulu i ofalu amdanaf. Yn fy mhrofiad i, nid yw llawer o weithwyr iechyd proffesiynol yn cydnabod y symptomau a'r dioddefaint a achosir gan yr adwaith i’r brechlyn. Rwy'n galw am well ymwybyddiaeth a llwybr priodol ar gyfer diagnosis a thriniaeth i'r rhai sy'n dioddef sgîl-effeithiau gwanychol o'r fath. |
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |
Er bod Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud bod brechlynnau Covid-19 yn ddiogel ac yn effeithiol, mae’n cydnabod y gall sgîl-effeithiau godi. Mae’n nodi mai ysgafn a dros dro yw’r rhain gan fwyaf, ond mae digwyddiadau negyddol difrifol yn brin.
Mae Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) Llywodraeth y DU yn sicrhau bod pob brechlyn a ddefnyddir yn y DU yn bodloni’r safonau diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd gofynnol, gan fynd ati’n barhaus i ddadansoddi data i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddiogel. Mae'r MHRA hefyd yn gweithredu'r cynllun Cerdyn Melyn, lle gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r cyhoedd roi gwybod os ydynt yn amau bod unrhyw sgîl-effeithiau.
Yng Nghymru, gwnaed ymdrechion i wella ymwybyddiaeth meddygon teulu o sgîl-effeithiau brechlynnau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu dogfennau canllaw a modiwlau e-ddysgu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddiogelwch brechlynnau, sgîl-effeithiau posibl, a sut i gyfathrebu â chleifion.
O safbwynt gwneud diagnosis a thrin adweithiau negyddol i'r brechlyn, mae hyn yn seiliedig ar werthusiadau clinigol. Mewn achosion mwy difrifol, er enghraifft lle ceir amheuaeth o geuladau gwaed, gellir defnyddio profion diagnostig pellach fel profion gwaed neu ddelweddu. Ar gyfer symptomau hirdymor fel blinder neu boen, gellir atgyfeirio cleifion yng Nghymru at y rhaglen Adferiad, sef gwasanaeth adsefydlu yn y gymuned a lansiwyd ym mis Mehefin 2021. Mae’r rhaglen hon wedi cael cyllid i ddarparu gwasanaethau aml-broffesiynol i bobl sy’n byw gyda Covid hir, ac mae’n cynnwys cyllid i bobl â chyflyrau fel ME/CFS a ffibromyalgia. Cafodd y rhaglen ei hehangu yn 2023 i gynnig gwasanaethau i unigolion sydd â symptomau corfforol parhaus ond heb ddiagnosis clir.
Dywed Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r ddeiseb:
…os bydd unrhyw un yn profi symptomau tebyg i'r rhai a brofir gan bobl â Covid Hir, beth bynnag allai fod wedi'u hachosi, byddwn yn eu hannog i ddefnyddio'r gwasanaethau adsefydlu cymunedol integredig a sefydlwyd ym mhob bwrdd iechyd drwy’r rhaglen Adferiad.
Mae hefyd yn nodi “gallai'r rhai sydd wedi dioddef adwaith niweidiol fod yn gymwys i gael taliad niwed brechlyn o gynllun iawndal a weithredir gan Lywodraeth y DU”.